Senedd Cymru | Welsh Parliament
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith | Climate Change, Environment and Infrastructure Committee
Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus | Decarbonising the public sector
Ymateb gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru| Evidence from Welsh Local Government Association
Mae’r map llwybr wedi rhoi arweiniad defnyddiol, lefel uchel mewn cysylltiad â phwynt (i) uchod, gan nodi’r meysydd y dylai cyrff sector cyhoeddus ganolbwyntio arnynt. Dyma’r meysydd y gall camau gweithredu’r sector cyhoeddus gael yr effaith fwyaf posibl o ran lleihau allyriadau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cynghorau i ymhelaethu ar y manylion ynghylch y map llwybr (yn gysylltiedig â phwynt (iii) uchod). Mae’n bwysig nodi rhaglenni gwaith strategol y gellir rhannu ymchwil, arweiniad a dysgu, er mwyn osgoi dulliau ad hoc, pan gaiff popeth ei ailadrodd 22 o weithiau a phan gaiff y posibilrwydd am arbedion ei golli.
Fel y nodir uchod, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i CLlLC i ddatblygu cefnogaeth wedi’i deilwra i gynghorau. Mae CLlLC wedi bod yn cydweithio'n agos iawn â swyddogion yn is-adran Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei rhaglen gymorth, gan weithio'n effeithiol fel tîm. Roedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn bresennol yng nghyfarfod y Panel i drafod y gwahanol weithgareddau sydd ar y gweill, yn ogystal â thrafod y cynnydd â’r 22 Arweinydd ac arweinwyr eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghyngor Partneriaeth Cymru.
Mae cefnogaeth LlC hyd yma wedi’i groesawu’n fawr ond mae ar raddfa gymharol fach ac yn gysylltiedig â’r cam ‘archwilio’. Wrth i ni symud i’r cam ‘cyflawni’ mae’n anochel y bydd llawer mwy o faterion ariannol i fynd i’r afael â nhw. Mae’r costau a delir ymlaen llaw am y camau y bydd angen eu cymryd yn debygol o fod yn sylweddol – e.e. yn gysylltiedig ag adeiladau, cerbydau, a chaffael cynhyrchion carbon isel a gwasanaethau (sy’n debygol o fod yn fwy costus).
Bydd hyn yn gofyn am ddulliau arloesol fel ‘buddsoddi i arbed’, ‘costio oes gyfan’ ac ystyried goblygiadau carbon yr hyn a brynir, yn hytrach na’r costau ariannol yn unig. Bydd llawer o fesurau hanfodol yn arwain at ad-daliad yn yr hirdymor. Bydd rhywfaint o’r ad-daliad hwn yn ariannol a bydd modd ei ‘ddal’ (e.e. drwy gostau rhedeg a chynnal a chadw is ar gyfer cerbydau trydan; mesurau effeithlonrwydd ynni sy’n arwain at arbedion ar filiau ynni; cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n darparu ffynhonnell ynni cost isel a gwydn ar gyfer swyddogaeth y cyngor (yn ogystal â'r posibiliadau ar gyfer creu buddion economaidd lleol).
Fodd bynnag, bydd rhai o’r buddsoddiadau angenrheidiol mewn ‘nwyddau cyhoeddus’ a fydd yn cyfrannu at les cymunedau yn y dyfodol ond nad ydyn nhw’n cynhyrchu elw uniongyrchol na dichonadwy o ganlyniad i fuddsoddi. Er enghraifft, bydd adfer tir mawnog yn arwain at fanteision lleihau carbon dros amser (drwy ddal a storio) ond bydd yr elw ar y buddsoddiad cychwynnol yn un amgylcheddol, nid ariannol.
Mae hyn yn berthnasol i fuddsoddiadau addasu/gwytnwch o ran newid hinsawdd yn ogystal â'r rhai sy’n anelu at gyflawni sero net. Er enghraifft, bydd mesurau atal llifogydd yn diogelu trigolion a busnesau a gallan nhw helpu i osgoi gwariant ar lanhau difrod llifogydd. Fodd bynnag, mae hynny’n ‘enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad’ heb unrhyw ffrwd incwm uniongyrchol cysylltiedig i ad-dalu costau cyfalaf ymlaen llaw.
Gall cynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys talu perchnogion tir/ffermwyr am wasanaethau ecosystemau, fod â rhan bwysig yma o ran yr ymdrechion i leihau allyriadau carbon ac addasu (yn ogystal ag atal colli natur) yn nhiriogaeth ehangach yr awdurdod lleol (yn hytrach na chanolbwyntio ar ddatgarboneiddio / ymdrechion sero net cynghorau'n fewnol).